Cerddorion yn diddanu yn Nolgellau

Tri cerddor o ardal y Bala yn cynnal cyngerdd i Glwb Cerdd Dolgellau

gan Geraint Thomas
Cadog, Nel a Gruff

Cadog Edwards, Nel Thomas a Gruffudd ab Owain

Ers bron i ddeugain mlynedd mae Clwb Cerdd Dolgellau wedi bod yn cynnal cyngherddau, ond bellach mae cerddorion ifanc o’r ardal wedi adeiladu perthynas arbennig gyda’r clwb.

Neithiwr roedd Gruffydd ab Owain, Nel Thomas a Cadog Edwards yn artistiaid unigol ar raglen cyngerdd olaf y tymor i’r clwb. Rhoddodd Nel a Gruffydd gyflwyniadau clasurol ar y piano, a chanodd Cadog unawdau, gyda Nia Morgan o’r Bala yn cyfeilio.  Roedd neuadd Coleg Meirion Dwyfor yn llawn, ac yn ogystal â’r tri o Benllyn roedd cyfraniadau eraill ar y soddgrwth, gitâr glasurol a gitâr electro-acwstic.

Roedd y cyngerdd yn benllanw blwyddyn o berthynas rhwng y clwb a’r tri cherddor ifanc.  Bu’r tri yn ffodus o ddenu nawdd gan y clwb o £500 yr un tuag at ddatblygu eu gyrfaoedd cerddorol, yn cyfrannu at wersi, teithio ac adnoddau.  Daw’r nawdd yn sgil rhodd hynod hael gan gyfrannwr dienw i’r clwb – a’r bwriad ydi annog a meithrin cerddorion yn Sir Feirionydd.  Ac mae’r tri yn hynod ddiolchgar o’r rhodd.

Dywedodd Cadog Edwards-

“Roedd y grant a ges i gan Glwb Cerdd Dolgellau yn hwb mawr i mi wrth ddatblygu fy llais fel canwr.  Mae’r arian wedi cyfrannu tuag at wersi canu gwerthfawr – a hefyd wedi agor drysau i mi fel canwr.”

Yn ôl Nel Thomas

“Nid yn unig roedd y rhodd ariannol yn andros o hwb, o’n roedd y profiad o gael perfformio yn unigol ar y piano mewn cyngerdd o’r fath yn werthfawr.  Dyma’r tro cyntaf i fi gael y cyfle i berfformio fel hyn ar fy mhen fy hun.”

Ychwannegodd Gruffydd-

“Er i mi gael sawl profiad o berfformio mewn eisteddfodau ac ati, mi aeth arian y grant tuag at wersi anhygoel o werthfawr gan yr Athro Richard Ormrod – arbenigwr ar y piano o’r Royal Northern College of Music – cyfle efallai na fyddai wedi dod i’m rhan fel arall.”

Am fwy o wybodaeth am Glwb Cerdd Dolgellau cliciwch ar-  www.dolgellaumusicclub.org.uk