gan
Anya Elena Roberts
- Er bod yna gymaint o ddisgyblion galluog ac uchelgeisiol yn mynnu cael lle yn y brifysgol, mae’r costau byw yno yn afresymol! Bydd diwedd i ddymuniadau a llwyddiant yr holl ddisgyblion lefel A o ganlyniad i’r costau byw uchel ofnadwy. Mae disgwyl i ddysgwyr dalu £2,000 o bunnoedd bob tri mis am eu llety! Gwelwn bod y gost wedi codi 60% dros y ddegawd diwethaf. Bydd hefyd angen talu swm uwch o arian yn y prifysgolion gorau sydd wedi eu lleoli mewn dinasoedd poblogaidd a chyfoethog.
Mae angen ceisio gostwng y prisiau rhain er mwyn helpu dysgwyr ein dyfodol i lwyddo a chael gyrfaoedd anhygoel mewn bywyd.